Skip to content
Sut y gall busnesau, cymunedau ac unigolion Cymru gymryd rhan yn Wythnos Cymru Ledled y Byd drwy Bythefnos Bwyd Cymru.
- Dilynwch Fwyd Wythnos Cymru a defnyddiwch yr hashnod #BwydaDiodCymru, #BlasCymru, #GwladGwlad
- Coginiwch a rhannwch – ymunwch â Grŵp Bwyd Wythnos Cymru a dechreuwch lanlwytho lluniau a fideos o’ch prydau a goginiwyd yn lleol gyda chynnyrch lleol.
- Fusnesau, allech chi addurno eich ffenestri i’n hannog ni oll i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a’r Bwyd a Diod a gynhyrchir yn eich ardal?
- Crëwch daith rithwir ‘Fyw’ o amgylch eich safle, lle gallwn gwrdd â’r tîm a darganfod ymhle y gallwn brynu eich cynnyrch.
- A oes tafarn yn rhywle a fyddai’n hoffi gwneud cwis ‘Byw’?
- Bwytai – ewch â ni drwy eich bwydlen, siaradwch am eich pryd mwyaf poblogaidd, allech chi wneud arddangosiad coginio?
- Allech chi dynnu sylw at y pleserau a’r buddion i iechyd o fwyta cynnyrch o safon sy’n ffres, tymhorol ac unigryw i’r rhanbarth?
- Sesiynau Blasu – oes unrhyw arbenigwyr fyddai’n gallu dweud wrthym, er enghraifft, pa ddiod y dylem ei yfed gyda pha gaws?
- Ydych chi’n gogydd da? Beth am gymryd rhan yn y Cystadlaethau Coginio?
- Cwrdd â’r Cynhyrchydd ar gyfer sgyrsiau a sesiynau holi ac ateb
- Perfformwyr/Artistiaid – ymunwch â ni am berfformiad ‘byw’.
- Ysgolion: gweithgareddau gwaith cartref