Ydych chi’n credu eich bod chi’n pobi’n dda ac yr hoffech chi gymryd rhan ym Mhythefnos Bwyd Cymru?
Mae’r gystadleuaeth hon, a noddir gan Village Bakery, yn rhoi cyfle i ymgeiswyr brofi eu sgiliau coginio a ffotograffiaeth a chael eu beirniadu gan arweinwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Bydd pob adran yn cael ei beirniadu drwy ffotograffau o’r cynnyrch gorffenedig yn unig – bydd yn rhaid i deulu a ffrindiau wneud y gwaith blasu!
Ar gyfer pob cystadleuaeth, bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £100 a bydd yr ail orau yn derbyn £20.
Byddwn yn cyhoeddi’r enillwyr ar ddydd Sul 7 Mawrth 2021 ar wefan Pythefnos Bwyd Cymru a’r Cyfryngau Cymdeithasol.
Y beirniaid fydd Prif Dîm Pobi Village Bakery
Ymgeisiwch yn un o’r 6 cystadleuaeth goginio
Mae cystadlaethau’n cynnwys:
3. Tarten sawrus gan nodi’r cynhwysion
4. 16 oed ac iau – Swiss Roll Siocled Roll
5. 12 oed ac iau – Wyneb Pizza
6. 8 oed ac iau – 4 bisged wedi addurno
Dyddiad Cau: 20 Chwefror 2021 Ffurflen gystadlu
Beirniad: Village Bakery